Llogi Ystafelloedd
Cyfleusterau

Mae tair ‘stafell wahanol ar gael i’w llogi: Y Brif Neuadd, Ystafell Glaslyn ac Ystafell Madog.
Mae cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys cegin fach, ystafell bwyllgorau, cwpwrdd dillad cefn llwyfan a chyfleusterau newid.
Wedi ’i gyfuno ag opsiynau eistedd hyblyg iawn, gellir defnyddio’r Ganolfan ar gyfer unrhyw beth: o bartïon pen-blwydd plant neu gynhadledd fusnes i arddangosfa, ffair fwyd neu gynhyrchiad llwyfan cymhleth. Yn fwy na hynny, gall y Brif Neuadd hefyd ddarparu ar gyfer digwyddiadau chwaraeon penodol o dan do.
Y Prif Neuadd

Yn y Brif Neuadd y mae’r gofod mwyaf, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cyngherddau a derbyniadau mwy.
Yn ogystal a’r cyfleusterau goleuo a sain ddiweddaraf un , mae’r ystafell hon yn cynnwys system lle gellir codi’r seddau a’r llwyfan i gyd.
Pan mae popeth wedi’i godi, gellir defnyddio arwynebedd y llawr i gyd, a phan mae’r system yn ei lle, mae’n darparu llwyfan wedi’i godi a seddau i hyd at 400 o bobl.
O’r llwyfan gellir cyrraedd yr ystafelloedd gwisgo (gyda thoiled a chawod) sydd hefyd â chyfleusterau coluro a wardrob.
Am bris a manylion llogi , cysylltwch â ni.
Ystafell Glaslyn

Mae lle i fwy na 60 o bobl eistedd yn Ystafell Glaslyn, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer derbyniadau llai, cyfarfodydd a phartïon plant.
Atyniadau’r ystafell hon yw uwchdaflunydd sleidiau, a chegin i gael te a choffi. Os oes angen, mae trwydded achlysurol ar gael.
Gellir llogi Ystafell Glaslyn am £20 yr awr. Codir £10 yn ychwanegol am ddefnyddio’r gegin.